Croeso cynnes i feicwyr Cymraeg
Rydyn ni’n awyddus i ddathlu Caerdydd dwyieithog. Os hoffech chi wneud taith yn y Gymraeg, cysylltwch â ni ymhell ymlaen llaw. E-bost: [email protected]
Dyma beth sydd ar gael
Canol y Ddinas, Parciau a’r Bae
Gan gychwyn o gaffi annibynnol yng nghanol y ddinas, byddwch yn teithio ar lwybrau beicio i ganolfan ddinesig Edwardaidd Caerdydd, heibio cerflun trydydd Marcwis Biwt, sy’n edrych dros y castell a ail-adeiladodd mewn arddull gothig, a thrwy Barc Biwt gyda’i arboretum enwog. Byddwch yn dilyn yr afon heibio Stadiwm Principality a thrwy wlyptiroedd y ddinas i’r hen Tiger Bay – safle’r dociau a wnaeth y ddinas yn gyfoethog. Byddwch yn mynd heibio’r Senedd ac yn stopio am saib byr yn yr Eglwys Norwyaidd, a adeiladwyd gan forwyr o dramor. Byddwch yn dychwelyd i ganol y ddinas, gyda’i arcedau Fictoraidd hardd â siop recordiau hynaf y byd ynddo. Ar y ffordd, byddwn yn blasu pice ar y maen o hen garchar y ddinas, sydd bellach yn gartref i’r farchnad dan do.
Canol y Ddinas, Parciau ac Eglwys Gadeiriol
Gan gychwyn o gaffi annibynnol yng nghanol y ddinas, byddwch yn teithio ar lwybrau beicio i ganolfan ddinesig Edwardaidd Caerdydd, heibio cerflun trydydd Marcwis Biwt, sy’n edrych dros y castell a ail-adeiladodd mewn arddull gothig, a thrwy Barc Biwt gyda’i arboretum enwog. Awn yna tua’r gogledd ar hyd yr afon i bentref hanesyddol Llandaf gyda’i eglwys gadeiriol o’r 12fed ganrif. Byddwn yn ymweld â phlas Fictoraidd Cwrt Insole, cartref perchnogion mwyngloddio arloesol, cyn blasu cwrw crefft (neu goffi) ym maestref ddeiliog Pontcanna. Yn ôl yng nghanol y ddinas, bydd amser i fwynhau’r arcedau Fictoraidd hardd a hen garchar y ddinas, sydd bellach yn gartref i’r farchnad dan do.
Teithiau Tywys Preifat Pwrpasol
Hoffech chi ddiwrnod allan gyda ffrindiau neu wibdaith adeiladu tîm gyda chydweithwyr? Gallwch ddewis pryd y byddwch yn cychwyn a dylunio eich llwybr eich hun, neu gallwn helpu cynllunio teithlen. Pe baech chi’n newydd i’r ddinas neu’n byw’n lleol, gall ein tywyswyr arbenigol roi dealltwriaeth wirioneddol i chi o hanes Caerdydd a’r cyffiniau. Os ydych yn awyddus i fynd ychydig yn bellach i ffwrdd, beth am wneud diwrnod ohoni ar daith tri chastell – gan ddechrau yng Nghastell Caerdydd, bydd taith feicio hawdd yn mynd â chi ar hyd yr Afon Taf i Gastell Coch - fel darlun o stori dylwyth teg. Bydd amser i archwilio’r castell a chael lluniaeth ysgafn cyn mynd yn hamddenol i fyny ar hyd llwybrau beicio i gastell mwyaf Cymru, Castell Caerffili o’r oesoedd canol. Gallwch gael picnic ger waliau’r castell neu gael cinio tafarn cyn dilyn yr afon i lawr i Gaerdydd. Mae llawer o leoedd sy’n hawdd cyrraedd ar gefn beic o Gaerdydd – gofynnwch i’n tywyswyr am awgrymiadau eraill.